Skip to main content

Mae'r adeilad bychan hwn sydd drws nesaf i eglwys yr abaty canoloesol yn ddiddorol iawn ynddo'i hun — dyma un o'r ysgolion eglwysig cynharaf yng Nghymru. Ond y tu mewn mae'r stori go iawn.

Yno fe welwch gasgliad rhyfeddol o bron i 30 o gerrig a chroesau arysgrifedig, a rhai ohonynt yn dyddio o ddyddiau cynnar Cristnogaeth yng Nghymru'r chweched ganrif. Safai’r rhain yn wreiddiol fel cerrig milltir ar ffyrdd Rhufeinig – neu yn achos un ohonynt ar ben beddrod o'r Oes Efydd – a chawsant eu hailgylchu er cof am benaethiaid lleol.

Ymhlith y cerrig nadd diweddarach mae croesau pen-disg a chroesau olwyn trol gwych o'r nawfed a'r 10fed ganrif, e.e. Croes Fawr Cobelin gyda'i golygfa gerfiedig o helfa.

Yn yr oriel i fyny'r grisiau, ymhlith y cerfluniau a'r arysgrifau canoloesol o Abaty Margam, mae delw o farchog o'r 14eg ganrif. Mae wedi’i wisgo mewn maelwisg a gwelir draig fechan ar waelod ei darian. Ond efallai mai seren y sioe yw'r gargoil grotésg a gynlluniwyd i wagio dŵr glaw drwy ei ben-ôl.

Bydd teithia ar Dydd Sadwrn 10am, 12pm a 2pm a Dydd Sul 10am, 1pm a 2pm


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
10:00 - 14:00
Sul 08 Medi 2024
10:00 - 14:00